
Cliciwch y lluniau i weld yr Oriel
Lleolir Bythynnod Onnen a Sycamorwydden (Ash and Sycamore Lodges) ar fferm deuluol, 4 milltir o dref farchnad fach Rhaeadr Gwy. Adeiladwyd y ddau fwthyn mewn modd cynhaliadwy, gan ddefnyddio pren lleol. Mae lle i chwech o bobl gysgu ym mhob bwthyn, a chynigir lle moethus yng nghefn gwlad hardd y Canolbarth.
Ymlaciwch a dadflinwch. Mae toreth o deithiau cerdded godidog, a lonydd lle gellir seiclo’n heddychlon. Mae gwarchodfeydd natur, merlota a physgota ar drothwy’r drws, ac mae’r ardal yn baradwys i adargarwyr. Un o hynodion yr ardal yw helfeydd ffyngoedd neu fadarch!
Gwobrau a Chymeradwyaethau

Bu Bythynnod y Lôn yn ail orau yng nghystadlaethau terfynol Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru am y lle gorau i aros 2010 (categori Gweithredwr Bach heb wasanaeth) am gynnig profiad ymwelwyr o ansawdd uchel iawn, a Chroeso Cymreig Cynnes iawn.

Rydym yn falch i ddatgan ein haelodaeth o Gynllun Busnes Twristiaeth Gwyrdd. Bwriad y grŵp yw cynorthwyo ei aelodau i leihau eu heffaith amgylcheddol, ac mae’n hybu twristiaeth cynhaliol drwy gydol y DU.

Yn ddiweddar mae Bythynnod y Lôn (Lôn Lodges) wedi cael eu graddio gan “Groeso Cymru” Bwrdd Twristiaeth Cymru, ac mae’n falch o gael y 5 seren uchaf am amsawdd ei safonau lletya. Rydym yn hollol ymroddedig at gynnal yr ansawdd uchel hwn ar gyfer ein gwesteion i gyd. Rydym yn ymroddedig at ddarparu ar gyfer anghenion Cerddwyr a Seiclwyr ac rydym wedi cael ein cymeradwyo gan “Groeso Cymru” ar ôl cwrdd â meini prawf “Cynllun Croeso Cerddwyr a Seiclwyr”

Rydym wedi cael hyfforddiant a wedi ein gwobrwyo â gwobr Croeso Cynnes am ein Croeso Cymreig Cynnes. Mae’r llety yn mynegi Hunaniaeth y Lle, sy’n ychwanegu at brofiad yr ymwelydd.

Gwobrwywyd Bythynnod y Lôn (Lôn Lodges) ag aelodaeth “Cymru Mewn Steil”, arweiniad annibynnol i’r lleoedd godidocaf i aros yndynt yng Nghymru.

Dymuna Bythynnod y Lôn dangos ein hymrwymiad at yr Iaith Gymraeg trwy drin y ddwy iaeth fel ei gilydd, cyn belled ag y gallwn.
Gymraeg
Mae Lon Lodges yn dymuno dangos ein hymrwymiad i’r Iaith Gymraeg drwy drin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal, cyn belled â’i fod yn rhesymol i ni wneud hynny. Er nad ydym yn siaradwyr Cymraeg rhugl, rydym yn croesawu’r ymholiadau Cymraeg a dderbyniwn ac fe fyddwn yn eu hateb yn y Gymraeg. Diolch.